{kowydd i wenhwyfar o fôn}
1 Y vvn glaer vwnwgl euraid
2 o Von gynt yn vwyn a gaid
3 a oes ym obeith weithion
4 oth weleti wythliw ton
7 ystiriaid nad ystyriais
8 oth gael ni bu anoeth gais
9 ni bu anrheg na neges
10 eithr vy lladd waeth ar vy lles
11 trist vvm nath gawn ddawn ddiwael
12 tristach wyth gulach oth gael
13 gwae vi a wnevthost gost gwyl
14 vy mynv pan vvm anwyl
15 ni buost gall na phallud
16 ni bu ddewin y glin glud
17 peraist annog vynghrogi
18 pe'm carud ni vynvd vi
19 rhyvalch oedd i bap Ruvain
20 vod genyd gwyn ymyd main
21 cemmer dan gel a wnelych
22 cymod am hyn dyn gwyn gwych
23 a dos veinir yn nirwy
24 a phaid a'r cwyn ddyn mwyn mwy
25 chwareus vvam gam gae
26 chwerw vv ddiwedd y chwarae
27 o buost riein veinhir
28 vodlon ym dan vedwlwyn ir
29 [298] na phair ddyn deg waneg wedd
30 grogi dillin y gwragedd
31 dros beri ddyweddi ddig
32 dienyddu dyn eiddig
33 ym Mynyw'r wyf Wenhwyvar
34 ym Mon yr heyddeist vymar
35 vy mvn mi a vvm ynod
36 geri yw i mi vymod
Dauid ap Gwilim
Nodiadau
4 welet{t}i